WE NEED YOUR HELP
We are looking for regular volunteers to support the Travelling crane restoration between September and December.
Roles include:
ROLE 1 – HANDS ON ENGINEERS AND PHYSICAL HELPERS
The task involves using force and heat to loosen fixings and dismantle sub-assemblies. Each component has to be carefully recorded restored and replaced in the same position or with an exact replica. Some machining of new parts will be required. You do not need to be a qualified engineer, just be interested in the project.
ROLE 2 – HERITAGE RESEARCHERS
Gathering together images and oral histories which tell the story of the importance of the Musgrave Crane and Number 1 rolling mill it powered and weaving these together into a soundscape interpretation application.
ROLE 3 – PROJECT DOCUMENTERS
It is vital that we keep accurate historical records of the funders to satisfy Cadw and produce an annotated digital photographic record. This will involve photographing and detail record keeping and possibly 3D computer aided design. We will be uploading much of this information to a blog site and you would be involved in helping us to create an engaging blog of the project.
Or a combination of all of the above.
GWIRFODDOLWCH
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n fodlon cynorthwyo’n rheolaidd yn y gwaith o adfer y craen symudol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr.
Mae’r rolau’n cynnwys:
RÔL 1 : PEIRIANWYR A HELPWYR A ALL GYNNIG CYMORTH YMARFEROL A CHORFFOROL
Mae’r tasg yn cynnwys defnyddio nerth a gwres i lacio darnau o’r peirianwaith a datgymalu is-gydosodiadau. Mae angen cofnodi pob rhan yn ofalus, ei hadfer a’i gosod yn ôl yn yr un lle, neu ei hadnewyddu â darn hollol unwedd. Bydd angen turnio nifer o rannau newydd. Nid oes rhaid ichi fod yn beiriannydd cymwysedig – y cwbl sydd eisiau yw bod â diddordeb yn y prosiect.
RÔL 2 : YMCHWILWYR TREFTADAETH
Mae eisiau pobl i hel lluniau a hanesion llafar sy’n tystio i bwysigrwydd y Peiriant Musgrave a’r felin rowlio Rhif 1 a yrrid ganddo, a chydblethu hyn oll i greu ap dehongli trwy seinlun.
RÔL 3 : DOGFENWYR PROSIECT
Mae’n hanfodol bwysig inni hadw cofnod hanesyddol manwl gywir o arianwyr y prosiect i fodloni Cadw, a chreu cofnod ffotograffig digidol anodiadol. Bydd hyn yn golygu tynnu lluniau a chadw cofnodion manwl, ac efallai hefyd gwaith dylunio 3D gyda chymorth cyfrifiadur. Byddwn ni’n uwchlwytho llawer o’r wybodaeth hon i safle blog, a byddech chi’n ein helpu ni i greu blog atyniadol am y prosiect.
Neu gyfuniad o’r rolau uchod.